Datblygu Sgiliau Cymraeg i Ddiwallu Anghenion Busnes

Rwy’n falch o weld bod y Grŵp Gorchwyl a Gorffen a benodwyd gan y Llywodraeth “i graffu ar y ffyrdd y gallai’r iaith Gymraeg hybu’r economi” wedi cysylltu gofynion busnesau gyda’r angen i ddatblygu sgiliau gweithlu’r dyfodol.

O blith canfyddiadau’r Grŵp, noda bod angen: adroddiad ar yr economi a'r Gymraeg - clawr

  • datblygu sgiliau ieithyddol a hyder yn y defnydd o’r iaith
  • adnoddau i hyrwyddo arloesi, mentergarwch a gyrfaoedd posib mewn busnes
  • rhoi cyfle i fusnesau ddewis darpariaeth Gymraeg yn rhaglenni hyfforddiant a sgiliau presennol a ariennir gan y Llywodraeth ar gyfer pobl ifanc.

Mae colegau wrthi eisioes yn adnabod, yn trafod ac yn mynd i’r afael â’r pwyntiau yma.

Mae nifer helaeth o’r gweithlu dan hyfforddiant yn fyfyrwyr yn ein colegau addysg bellach neu dan hyfforddiant coleg yn y gweithle, megis prentisiaid.

Un o brif nodweddion colegau addysg bellach yw eu bod mewn cyswllt parhaus â’r gweithle ac yn trafod gyda chyflogwyr yn aml – mae’n rhan o’u gwaith pob dydd.

Er mwyn ymateb yn benodol i anghenion busnes,  datblygwyd gwrs alwedigaethol newydd ar gyfer myfyrwyr ôl-16 sy’n ffocysu ar sgiliau gofal cwsmer drwy gyfrwng y Gymraeg. Datblygu sgiliau cyfathrebu a hyder yn y defnydd o’r iaith yw prif nod y cymhwyster.

Partneru â Busnesau

Braf byddai gweld mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr sy’n medru’r Gymraeg gael profiad gwaith mewn gweithloedd cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog, neu lle mae galw penodol am sgiliau cyfathrebu Cymraeg. Efallai buasai o ddefnydd cael bas-data o weithleodd felly.  Rhywbeth i Gyrfa Cymru, y Mentrau Iaith, efallai? Neu efallai ninnau – ColegauCymru?

Heb os, mae gweithio ar y cyd â phartneriaethau allweddol yn lleol ac yn rhanbarthol yn hanfodol bwysig, nid yn unig er mwyn bod yn effeithiol o ran y defnydd o adnoddau dynol ac ariannol, ond hefyd er mwyn elwa o nodweddion arbennig pob un o’r rhanddeiliaid.  Eisioes, mae’r colegau addysg bellach yn cydweithio gyda sefydliadau a mudiadau gan gynnwys y Mentrau Iaith, yr Urdd a Gyrfa Cymru. Efallai byddai denu mwy o bartneriaid i gydweithio yn ymarfer ffrwythlon.

Prosiectau Peilot

Ar y lefel genedlaethol, mae’r bartneriaeth rhwng ColegauCymru a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn ffynnu.   Yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd, bu i’r ddau fudiad lofnodi Memorandwm o Gyd-Ddealltwriaeth gyda’r prif bwrpas o gryfhau’r profiad addysgol cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr rhwng 16 a 19 oed.

Mae’r ddau sector wrthi nawr yn rhoi’r Memorandwm ar waith, gyda’r Coleg Cymraeg yn ariannu pum prosiect peilot sy’n targedu ystod o sectorau galwedigaethol. Trwy’r cynllun, bydd deunyddiau penodol yn cael eu datblygu ar gyfer cyrsiau cyfrwng Cymraeg newydd mewn troseddeg, gwyddorau cymdeithasol a gofal plant.

Disgwylir yn ogystal y bydd deilliannau’r prosiectau yn medru buddio myfyrwyr y tu hwnt i’r pum coleg sy’n rhan o’r cynllun.

Gan gadw golwg ar yr ystod o sgiliau sydd eu hangen ar yr economi ar bob lefel, bydd y prosiectau peilot hefyd yn paratoi gweithgareddau i roi blas i fyfyrwyr addysg bellach o’r hyn sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg yn y prifysgolion.

Camau bach, efallai, ond camau pwysig a gwerthfawr i’r rhai hynny fydd yn buddio ohonynt, dywedwn i.

Buddiannau Dysgu Galwedigaethol Cyfrwng Gymraeg

Anodd ydyw mewn rhai achosion i gynnal dosbarth cyfrwng Cymraeg hyfyw – hyd yn oed lle mae digon o adnoddau ar gael. Mater o angen gwell marchnata, efallai.  Nid yn unig marchnata gan goleg unigol o fewn cloriau prospectws neu mewn nosweithiau agored, ond marchnata sy’n ymdrin yn uniongyrchol a gofynion y gweithle.

Gan hynny, da yw gweld, i fynd yn ôl at adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar yr Iaith Gymraeg a Datblygu Economaidd, bod y Grŵp yn argymell i’r Llywodraeth ddarparu adnoddau i gasglu tystiolaeth o effaith y Gymraeg ar yr economi a’r cysylltiadau rhyngddynt.

O weld tystiolaeth bod y Gymraeg yn effeithio’n bositif ar yr economi, hyderwn byddai mwy o fyfyrwyr addysg bellach yn dewis, neu efallai’n mynnu, astudio cwrs – neu gyfran o gwrs – drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae yna rai enghreifftiau sydd yn dechrau cael eu amlygu. Eleni, balch iawn ydym bod NatWest Cymru yn noddi Gwobr ColegauCymru 2014 ar y Gymraeg a Dwyieithrwydd.  Mae NatWest yn gwmni sy’n ymfalchïo’n gyhoeddus iawn yn y Gymraeg, a newyddion da iawn oedd gweld y banc yn dod atom i adnabod a hyrwyddo arfer dda y colegau addysg bellach.

Mae’r dyddiad cau i golegau wneud cais am y wobr honno yn prysur nesau – 10 Mawrth.

Hyderwn y cawn bentwr cryf o geisiadau o’r colegau fydd yn dangos cynnydd yn eu gwaith gyda busnesau yn ogystal a chyda rhanddeiliaid eraill er budd ein dysgwyr ac er budd economi Cymru.

Advertisements

About LlinosThomas

llinos.thomas [a] colegaucymru.ac.uk
This entry was posted in Skills. Bookmark the permalink.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s